Press Releases

Datganiad Newyddion

AASTRA YN DADORCHUDDIO’U SYSTEM FFÔN GYNTAF SY’N CEFNOGI’R GYMRAEG AR GYFER BUSNESAU

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o systemau teleffoni arobryn IntelliGate IP Aastra ar gyfer busnesau bach i ganolig yn cefnogi’r Gymraeg am y tro cyntaf ac yn cynnwys technoleg uwch i hyrwyddo effeithlonrwydd busnesau.

Mae Aastra, cwmni blaenllaw sy’n un o arweinwyr y farchnad gyfathrebu, yn cydnabod bod sefydliadau sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn chwarae rhan hollbwysig yn ffyniant y wlad, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. IntelliGate 7.7 yw’r cyntaf o gynnyrch Aastra i ymgorffori’r Gymraeg yn yr hyn y gall ei gyflawni. Bellach gall defnyddwyr ddewis anogeiriau Cymraeg ar sgriniau arddangos ystod eang o ffonau system IntelliGate, sydd wedi’u llunio ar gyfer pob cyllideb a chymhwysiad, ac yn cynnwys rhai digidol, IP, di-wifr ac opsiynau cyfrifiadurol.

Dywedodd Mike Ballantine, Rheolwr Datblygu Busnes yn Aastra UK: “Rydym ni’n credu mai Aastra yw’r cwmni cyntaf i gynnig datrysiadau mor ddatblygedig yn y Gymraeg. Roeddem ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig darparu offer i helpu ac annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, a ffôn y swyddfa yw un o’r teclynnau amlycaf i wneud hynny yng ngweithrediad beunyddiol busnes.”

“Rydym hefyd yn cydnabod bod angen datrysiadau sy’n gallu gwella cynhyrchiant a gwasanaeth cwsmeriaid ar fusnesau bach a chanolig. Mae’r fersiwn ddiweddaraf hon o IntelliGate yn ffordd ddiffwdan o gyflawni hyn, drwy ddarparu cymwysiadau uwch ar gyfer rheoli presenoldeb a symudedd.” ychwanegodd Mike Ballantine.

Mae meddalwedd IntelliGate 7.7 bellach ar gael ar yr holl systemau IntelliGate. Gall y gyfres hon o systemau cyfathrebu graddadwy gynnal unrhyw beth rhwng ychydig ddefnyddwyr a hyd at 600 o estyniadau ar unrhyw gyfuniad o linellau IP a thraddodiadol, mewn un lleoliad neu fwy – gan gynnwys rhai sy’n gweithio o bell. Mae holl systemau IntelliGate yn cynnwys nodwedd Ymateb Llais Rhyngweithiol (IVR) sy’n golygu bod modd trefnu neges groeso yn gofyn i’r rhai sy’n galw a hoffent gael ateb yn Gymraeg neu Saesneg. Gall IntelliGate integreiddio gyda Microsoft® Exchange hefyd fel bod modd cyrchu cyfeiriaduron Outlook® i ddeialu enwau a chwilio drwy’r cyfeirlyfr o’r set law, neu sbarduno’r alwad o sgrîn cyfrifiadur y defnyddiwr.

“Gyda dros 300 o staff, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr mawr yn y Canolbarth yn ogystal â bod yn sefydliad genedlaethol o bwys. Mae dros 70% o'n staff yn siaradwyr Cymraeg - nifer ohonynt wedi dysgu'r iaith ac yn hannu o Dde Affrica, Iwerddon, Lloegr a Chymru. Rydym yn hynod o falch i ni gydweithredu ag Aastra er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg i'n staff ac i weld yr iaith Gymraeg yn ei phriod lle gydag ieithoedd eraill Ewrop. Mae hwn yn gam bositif i'r iaith ac yn rhoi dewis a pharch i'n staff mewn iaith o'u dewis,” medd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae systemau ffôn IntelliGate Aastra, sydd wedi ennill gwobrau, hefyd wedi’u llunio i sicrhau bod ffonau symudol yn medru cael eu cynnwys mewn rhwydweithiau corfforaethol mor ddi-fwlch a diffwdan â phosib. Mae’r cynnydd yn y gweithlu symudol yn gyrru’r galw am integreiddio o’r fath, fel ei bod hi’n hawdd cysylltu â gweithwyr er mwyn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid a gwell cydweithio. Mae datrysiad IntelliGate Aastra yn darparu swyddogaeth ‘Un Rhif’ sy’n sicrhau bod modd cyrraedd aelod o staff yn ddiffwdan, pa ddyfeisiau bynnag y maent yn eu defnyddio, neu ble bynnag y maent.

“Mae cysylltedd yn hollbwysig yn y byd busnes hwn sydd ‘bob amser yn effro’ ac yn aml mae gan bobl ddau neu dri rhif gwahanol, os nad mwy. Mae manteision pwysig i’w sicrhau o gael un rhif, sy’n cael ei gyfeirio at y ddyfais a’r lleoliad o’ch dewis”, meddai Mike Ballantine wedyn. “Er mwyn cynnal a chynyddu’n safle arweiniol ym marchnad Busnesau Bach a Chanolig Ewrop, mae Aastra yn ymroddedig i gynnig cynnyrch o ansawdd sy’n hynod ymarferol am bris cystadleuol, yn ogystal â buddsoddi mewn gwaith Ymchwil a Datblygu sy’n canolbwyntio ar symudedd integredig a safonau agored.”

I gael rhagor o wybodaeth am IntelliGate Aastra a manylion adwerthwyr y gallwch eu defnyddio er mwyn prynu neu uwchraddio cyfarpar cyfathrebu eich busnes, ewch i www.aastra.co.uk.

Gwybodaeth am Aastra UK

Aastra UK yw uned fusnes Aastra Technologies Limited, (TSX:“AAH”), yn y DU. Cwmni blaenllaw sy’n arwain yn y farchnad cyfathrebu menter yw Aastra. Mae ei bencadlys yn Concord, Ontario, Canada, ac mae’n datblygu ac yn cyflwyno cynnyrch a chymwysiadau cyfathrebu blaengar i fusnesau. Mae gweithrediadau Aastra yn wirioneddol fyd-eang, gyda mwy na 50 miliwn o linellau wedi’u gosod ar draws y byd a phresenoldeb uniongyrchol ac anuniongyrchol mewn dros 100 o wledydd. Mae Aastra’n gwbl ymroddedig i gyfathrebu menter ac yn cynnig un o’r portffolios mwyaf cyflawn o ddatrysiadau cyfathrebu unedig, wedi’u teilwra’n unigol i fodloni gofynion ei gwsmeriaid. Mae’r rhain yn amrywio o reolwyr galwadau llawn nodweddion ar gyfer busnesau bach a chanolig a rhai hynod raddedig ar gyfer mentrau mawr, symudedd integredig, a datrysiadau canolfannau galwadau i amrywiaeth eang o derfynellau. Gyda ffocws pendant ar safonau agored, mae Aastra’n galluogi mentrau i gyfathrebu a chydweithio’n fwy effeithlon. I gael rhagor o wybodaeth am Aastra, ewch i’n gwefan: http://www.aastra.com
 
Cysylltiadau cyfryngau:

Cyswllt i gleientiaid: 
Lisa Rchardson
Aastra Telecom UK
Ffôn: 01252 532100, Ffacs: 01252 532101
E-bost: lrichardson@aastra.com

Cysylltiadau cyfryngau:
Geraldine Grewal, Susannah Wyeth a Matthew Watson
Rainier PR
Ffôn: 020 7494 6570
E-bost: aastrapr@rainierpr.co.uk




Contact Information

Aastra Telecom (UK)
B3, Armstrong Mall
Southwood Business Park
Farnborough
Hampshire
GU14 0NR

Aastra Press Contact:

Debbie Hage, UK Market Communications Manager
Tel: 01252 532100
Fax: 01252 532101

Aastra Press Agency:

Tel: 01252 532195

Aastra Industry Analyst Contact:

Stephane Bobinet, Director of European Market Communications
Tel: 01252 532100
Fax: 01252 532101